CYPE(6)-01-23 - Papur i’w nodi 6

 

YMGYRCH HANES CYMRU

 

 

10 Rhagfyr 2022

 

 

I sylw aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

 

Mae Ymgyrch Hanes Cymru’n croesawu bod Cwricwlwm i Gymru’n datgan yn glir y dylai Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth cyfoethog fod yn greiddiol ac yn ganolog i gynlluniau gwaith o fewn Maes Dyniaethau.

 

Serch hynny, mae profiad blaenorol o’r diffyg sylw a roddwyd yn hanesyddol i Hanes Cymru mewn nifer o ysgolion yn achos pryder. Dengys adroddiad Estyn (Hydref 2021) Addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig bod hyn yn parhau’n anfoddhaol.

 

Mae ysgolion wedi wynebu heriau sylweddol iawn tros y blynyddoedd diwethaf a allai fod wedi cael effaith ar eu gallu i gynllunio a pharatoi ar gyfer newidiadau mor sylfaenol. Ar ben hynny, mae prinder arbenigedd a diffyg profiad o ran cyflwyno Hanes Cymru mewn rhai ysgolion ynghyd â phrinder adnoddau.

 

Galwn am sefydlu Gweithgor dan gadeiryddiaeth annibynnol tebyg i’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Profiadau Pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig er mwyn gallu adolygu’r modd y mae hanes Cymru’n cael ei gyflwyno.

 

Ymysg swyddogaeth y Gweithgor hwn fyddai

·         dynodi corff cyffredin o wybodaeth sylfaenol y dylai ysgolion ei gynnwys yn eu cynlluniau gwaith; byddai hyn yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu (Tachwedd 2019)

·         llunio llinell amser i gyd-fynd â hyn

·         monitro dysgu hanes Cymru yn yr ysgolion i sicrhau ei fod cael ei ddysgu’n gyson ar draws y wlad

·         nodi bylchau yn yr adnoddau sydd ar gael a chynghori ar pa ddefnyddiau fyddai eu hangen

·         cynnig cyngor ar natur yr hyfforddiant fyddai ei angen ar ysgolion.

 

Sylweddolwn mai un o egwyddorion sylfaenol Cwricwlwm i Gymru yw caniatáu i ysgolion lunio eu cwricwlwm eu hunain i gwrdd ag anghenion eu disgyblion a blaenoriaethau lleol. Ni fyddai dynodi corff cyffredin o wybodaeth yn cyfyngu ar ryddid ysgolion i wneud hynny ond byddai’n rhoi canllaw clir iddynt er mwyn sicrhau bod hanes cenedlaethol Cymru’n cael ei gyflwyno. Er mor werthfawr yw dysgu am hanes lleol, nid yw canolbwyntio ar hynny’n unig yn gyfystyr â dysgu am Hanes Cymru.

 

Gobeithio y bydd cyfle i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg drafod y materion hyn.

 

Yn gywir

 

Eryl Owain

Cydlynydd Ymgyrch Hanes Cymru